Artemis Gwarth



Artemis Gwarth. Mae'n siwr dy fod ti wedi clywed yr enw.
Os wyt ti'n credu'r hyn sy'n cael ei ddweud ar y We, dyma pwy sy'n gyfrifol am droseddau mwyaf ysgeler y ganrif newydd. Os nad wyt ti wedi clywed amdano, gwyn dy fyd. Rwyt ti'n medru cysgu'n fwy esmwyth heb sylweddoli bod y fath berson yn bodoli. Ond os wyt ti'n chwilfrydig ac eisiau gwybod mwy, beth am ddechrau yn y dechrau...
Yn y stori hon, y tro cyntaf i Artemis ddod wyneb yn wyneb â'r tylwyth, fe gei di'r hanes amdano'n ceisio adennill ffortiwn ei deulu. Fe gei di ddarllen amdano'n darganfod arallfyd o dan y ddaear sy'n gartref i Dylwyth Teg arfog a pheryglus, corachod rhechlyd a thechnoleg anghredadwy. Ond dyw hyd yn oed Artemis ddim yn sylweddoli'n iawn beth sydd o'i flaen pan wnaiff herwgipio Capten Heulwen Pwyll...
