dirgelwch y bont



Mae bywyd yn ddiflas i Owain Jones yn y cartref bechgyn yn Lerpwl. Fel Cymro glân, gloyw, mae e'n gwybod nad yw e'n perthyn yno. Ond daw ychydig o gyffro i'w fywyd wrth iddo fynd gyda gweddill ei ddosbarth ar ymweliad â Chymru.
Yno, ar fferm ynghanol y mynyddoedd, mae Owain yn cychwyn ar antur fwyaf ei fywyd. Gyda'i ffrindiau newydd, Geth a Marian, mae e'n cwympo dros ei ben a'i glustiau i ganol cyfnod anturus a helbulus Cymru'r bymthegfed ganrif. Tybed sut fydd Owain yn ymateb wrth i Geth a Marian gael eu herwgipio? A fydd e'n llwyddo i'w hachub cyn i'r dihirod eu lladd? A sut yn y byd mae dychwelyd i'r unfed ganrif ar hugain?
Nofel gyntaf y prifardd ifanc Hywel Griffiths, sy'n sicr o danio'r dychymyg ac apelio at ddarllenwyr o bob oed.
