top of page

Mordaith y sioned ann

(Voyage of the Dawn Treader)

 

Nid dyma'r tro cyntaf i Ned a Luned fod yng ngwlad Gwernyfed (Narnia), ond y tro hwn fe'u cânt eu hunain gyda'u cefnder Eustace - sy'n dipyn o snob - ar fwrdd y Sioned Ann gyda'r Brenin Caspar, yn hwylio dros Foroedd y Dwyrain. Chwilio am saith o arglwyddi, a ddiflannodd pan oedd Caspar yn blentyn, yw eu neges. | Mae hi'n fordaith ryfedd. Nid yn unig maent yn cwrdd â draig, a sarff fôr anferth, a chriw doniol o fodau anweledig, ond bu bron iddynt gael eu dal yng nghrafanc sinistr y Tir Tywyll, heb sôn am gael llawer antur arall. A ddônt o hyd i'r saith arglwydd? A roes Caspar ei serch ar ferch Ramandŵ? A ddaw Rici-wych y Llygoden i wlad Aslan y Llew, y tu hwnt i Ben Draw'r Byd?

I ARCHEBU...

Diolch am archebu!

BETH YDYCH CHI'N MEDDWL AM Y LLYFR YMA?

bottom of page