top of page

FY STORI I : Y NEWYN

'O na! O na! Mae'n drychineb! Mae'r haint wedi strywio'r rhan fwyaf o'r tato. Y tato oedd yn berffaith iach a maethlon pan godon ni nhw o'r ddaear. Agorodd Dat y pydew bore ma a'r weld yn llawn o ddim ond potsh afiach. Yr unig beth sydd da ni ar ôl i fwyta yw'r tato sydd heb fynd dan y ddaear. 'Chwe mis o fwyd yn llwyth o botsh drewllyd. O ble mae e wedi dod?' Dyna'r cwbwl allai Dat ei ddweud drwy'r bore heblaw am 'Fe aiff yr haint â ni i gyd.' Teimlais fy hun yn oeri wrth wrando arno. Fferrodd fy ngwaed. Beth allwn ni ei wneud? Bydd yn rhaid i ni ddefnyddio arian y rhent i brynu bwyd. Ond beth wedyn? Os na thalwn ni'r rhend byddwn ni mas ar yr heol.

 

A story about how one family try to survive a famine.

I ARCHEBU...

Diolch am archebu!

BETH YDYCH CHI'N MEDDWL AM Y LLYFR YMA?

bottom of page